Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd a Chwcis Archwilio

Mae’r Polisi Preifatrwydd a Chwcis hwn yn cyfeirio at wefan Archwilio (www.archwilio.og.uk) (a’r “Wefan”) yn cael ei chynnal a’i chadw gan Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru.

Bydd y Polisi Preifatrwydd a Chwcis yn cael ei adolygu, ac o bosib ei ddiwygio, o dro i dro. Efallai yr hoffech ail ymweld ag o’n rheolaidd.

Mae ‘Ni’ a ddefnyddir yn y polisi yn cyfeirio at Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru.

Data cyhoeddus a chyhoeddi

Nid yw pori gwefan Archwilio yn datgelu eich hunaniaeth yn gyhoeddus. Gall defnyddwyr y Wefan gyfrannu drwy gysylltu â’r swyddfa perthnasol i’r ardal. Mae Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yn cymedroli cyflwyniadau a chedwir yr hawl i beidio cyhoeddi cyflwyniadau yn unol â’u polisïau cymedroli eu hunain.

Gall cynnwys cyflwyniadau, yn ôl disgresiwn Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru, gael ei ymgorffori i’r Adroddiad Amgylchedd Hanesyddol a’i gyhoeddi ar y Wefan. Gall Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru ddefnyddio gwybodaeth yr ydych wedi ei chyflwyno i briodoli cynnwys a gyflwynir gyda hawlfraint a hawliau IP eraill. Bydd hyn ar ffurf llythyren gyntaf a chyfenw’n unig, ni fydd unrhyw wybodaeth arall y mae modd ei hadnabod yn cael ei gwneud yn gyhoeddus.

Adnabod defnyddiwr

Nid yw defnyddwyr y wefan yn cael eu hadnabod ar hyn o bryd oni bai eu bod wedi cyflwyno gwybodaeth drwy gwci (gweler Defnyddio Cwcis isod). Nid yw Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yn cadw na defnyddio’r wybodaeth hon mewn unrhyw ffordd. Nid yw Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yn gweithredu unrhyw broses ar y wefan ar hyn o bryd, megis mewngofnodi Defnyddiwr, ble mae defnyddwyr yn cael eu hadnabod drwy eu cyfeiriadu IP, fodd bynnag, fe all rhai cwcis trydydd parti a ddefnyddir ar wefan Archwilio gasglu’r wybodaeth hon (gweler isod).

Defnydd o Gwcis

Ffeil destun fechan yw cwci sy’n cael ei gosod ar eich peiriant i ddarparu profiad defnyddiwr gwell. Mecanwaith i gofio pethau mae porwr wedi ei wneud yn y gorffennol ar gyfer gwefannau yw cwcis, sy’n gallu cynnwys clicio ar fotymau penodol, mewngofnodi, neu ddarllen tudalennau.

Bydd y mwyafrif o borwyr gwe yn darparu cynnig i wrthod cwcis. Gallwch ddod o hyd i sut i wneud hyn yn y ddewislen help eich porwr.

Cwcis a osodir gan safleoedd Trydydd Parti

Cwcis sydd wedi eu gosod gan un gwefan, ond sy’n gallu cael eu darllen gan safle arall yw cwcis trydydd parti.

Google Analytics

Mae gwefan Archwilio yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddeg gwe dienw sy’n cael ei ddarparu gan Google, Inc. Mae Google Analytics yn gosod cwci er mwyn gwerthuso defnyddio’r safle a llunio adroddiadau ar weithgaredd.

WordPress

System Reoli Cynnwys a gyhoeddir eich hunan yw WordPress ac mae Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yn ei defnyddio i gaffael adborth am wefan Archwilio a’r Adroddiad Amgylchedd Hanesyddol. Mae WordPress yn gosod cwci i werthuso eich defnydd o’r safle a llunio adroddiadau inni ar y gweithgarwch.

Nid yw Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru’n rheoli lledaeniad y cwcis hyn a dylech wirio gwefannau’r trydydd parti perthnasol am fwy o wybodaeth ynghylch y rhain.