Dolenni

I gael rhagor o wybodaeth sy’n ymwneud â hanes ac archaeoleg Cymru, neu i weld casgliadau cofnodion eraill, dewiswch ddolen isod.

Dolenni i wefannau allanol:

Amgueddfa Cymru

Amcan Amgueddfa Cymru yw hyrwyddo addysg y cyhoedd; yn bennaf trwy gynrychioli gwyddoniaeth, y celfyddydau, diwydiant, hanes a diwylliant Cymru, neu sy’n berthnasol i Gymru, yn gynhwysfawr.

Archifau Cymru

Mae gan Archifau Cymru fwy na 7000 casgliad o gofnodion hanesyddol mewn 21 archif ledled Cymru. Mae’r wefan yn darparu porth chwiliadwy i’r casgliadau hyn.

Cadw

Cadw sy’n gyfrifol am warchod amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae hyn yn cynnwys adeiladau hanesyddol, henebion, parciau, gerddi a thirweddau hanesyddol, ac archaeoleg danddwr. Mae Cof Cymru yn sicrhau bod modd cyrchu rhestr o asedau treftadaeth cenedlaethol ar-lein. Isadran Llywodraeth Cymru ydyw, ac mae’n gwarchod miloedd o safleoedd ledled y wlad ac yn darparu mynediad iddyn nhw, gan hybu dysgu ac ymgysylltu â’r gymuned.

Canmore

Canmore yw casgliad cenedlaethol yr Alban o adeiladau, archaeoleg a diwydiant.

Coflein

Coflein yw cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) o ddata y mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru’n eu dal. Mae Coflein yn caniatáu cyrchu manylion miloedd o safleoedd archaeolegol, henebion, adeiladau a safleoedd morol yng Nghymru, ac yn darparu mynegai i ddarluniau, llawysgrifau a ffotograffau sy’n cael eu dal yng nghasgliadau archif CHCC.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Y Comisiwn Brenhinol yw corff archwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ganddo ef y mae’r rôl arweiniol wrth sicrhau bod treftadaeth archaeolegol, adeiledig a morol Cymru’n cael ei chofnodi’n awdurdodol a’i deall yn iawn, ac mae’n ceisio hybu gwerthfawrogiad o’r dreftadaeth hon yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gorff a noddir gan y llywodraeth a’i ddiben yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal a’u defnyddio’n gynaliadwy, nawr ac yn y dyfodol.

Cylchgronau Cymru Ar-lein

Mae Cylchgronau Cymru Ar-lein yn darparu mynediad di-dâl i ysgolheictod o Gymru, yn amrywio o gyhoeddiadau academaidd a gwyddonol i gylchgronau llenyddol a phoblogaidd.

Fframwaith Ymchwil ar gyfer archaeoleg Cymru

Mae gan y gorffennol gyfrinachau cudd o hyd, ac mae’n rhaid parhau i ehangu gwybodaeth am adeiladau, henebion a thirweddau Cymru. Mae’r fframwaith ymchwil yn gwerthuso’r pethau sydd eisoes wedi’u cyflawni ac yn nodi rhai cwestiynau allweddol sydd heb eu hateb hyd yma.

Gwasanaeth Data Archaeolegol (ADS)

Mae’r Gwasanaeth Data Archaeolegol (ADS) yn cefnogi ymchwilio, dysgu ac addysgu ag adnoddau digidol dibynadwy o safon. Mae’n gwneud hyn trwy gadw data digidol yn y tymor hir, a thrwy hybu a lledaenu amrywiaeth eang o ddata ym maes archaeoleg. Mae’r ADS yn hybu arfer da wrth ddefnyddio data digidol ym maes archaeoleg, mae’n rhoi cyngor technegol i’r gymuned ymchwilio ac yn cefnogi rhoi technolegau digidol ar waith.

Heritage Gateway

Porth i Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol lleol a chenedlaethol Lloegr yw Heritage Gateway.

Hynafiaethau Cludadwy

Cynllun gwirfoddol yw’r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy, ar gyfer cofnodi gwrthrychau archaeolegol y daw aelodau o’r cyhoedd o hyd iddyn nhw yng Nghymru a Lloegr. Bob blwyddyn, mae miloedd o wrthrychau’n cael eu darganfod, llawer ohonyn nhw gan bobl sy’n defnyddio datgelyddion metel, ond hefyd gan bobl sy’n mynd am dro, sy’n garddio neu sy’n gwneud eu gwaith beunyddiol. Mae darganfyddiadau o’r fath yn cynnig ffynhonnell bwysig i ddeall ein gorffennol.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n dal y casgliad mwyaf yn y byd o ddeunydd printiedig, darluniau, mapiau a deunydd archif sy’n ymwneud â Chymru. Mae’r wefan yn cynnwys llawer iawn o adnoddau sydd wedi’u digidoli (gan gynnwys Cylchgronau Cymru Ar-lein a’r Bywgraffiadur Ar-lein), catalog o’i chasgliadau materol a ffynonellau ar gyfer haneswyr teulu.

MapDataCymru

Mae MapDataCymru’n ffynhonnell ar gyfer data’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan ddarparu platfform data ar y cyd i aelodau’r cyhoedd ac awdurdodau cyhoeddus.

Pastmap

System ymholiadau lle defnyddir map yw Pastmap, ar gyfer set data archaeolegol a phensaernïol cenedlaethol a rhanbarthol yr Alban.

Porth Cymru Hanesyddol

Mae RCAHMW hefyd yn cynnal y porth Cymru Hanesyddol sy’n galluogi chwilio ar yr un pryd am gannoedd o filoedd o gofnodion yn ymwneud â henebion archaeolegol, adeiladau hanesyddol ac arteffactau a gedwir gan wahanol sefydliadau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y rhai a gedwir gan Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru a RCAHMW yn ogystal â darparu mynediad i ddata ar Henebion ac Adeiladau Cofrestredig a gedwir gan Cadw a chofnod canfyddiadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (CIfA)

Mae Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (CIfA) yn hyrwyddo ymarfer archaeoleg a disgyblaethau cysylltiedig drwy hybu moeseg a safonau proffesiynol ar gyfer cadw, rheoli, deall a hybu mwynhau treftadaeth.

Y Cyngor Archaeoleg Brydeinig

Elusen addysgol yw’r Cyngor Archaeoleg Brydeinig sy’n gweithio ledled y DU i gynnwys pobl mewn archaeoleg ac i hybu gwerthfawrogiad a gofal am yr amgylchedd hanesyddol er budd cenedlaethau heddiw ac yfory.

Help  

Sut i chwilio cronfa ddata Archwilio.

Cysylltwch â Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru  

Byddem yn falch o glywed oddi wrthych.

Oeddech chi’n gwybod?

Y gallwch chi newid palet lliw haenau’r map er mwyn ei wneud yn haws i bobl sydd â nam ar y golwg eu gweld?

Oeddech chi’n gwybod?

Y gallwch chi chwilio am gyfeirnod grid cenedlaethol ar y map drwy ddefnyddio’r chwyddwydr?