Amodau defnyddio

Amodau Defnyddio Cyffredinol

Bwriedir i’r wybodaeth a gesglir o Archwilio gael ei defnyddio at ddibenion gwybodaeth ac ymchwil yn unig ac ni ddylid ei defnyddio at ddibenion rheoli datblygu nac fel rhan o brosiect masnachol. Dylid ymdrin â’r math hwn o ymholiad drwy ffurflen ymholi CAH Heneb.

Ni cheir trosglwyddo gwybodaeth a sicrheir o Archwilio i drydydd parti heb ganiatâd ysgrifenedig.*

Y defnyddwyr fydd yn gyfrifol am wirio bod y wybodaeth a sicrheir o Archwilio yn gywir.

Oni nodir yn wahanol, Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru sy’n berchen ar hawlfraint strwythur data a chynnwys Archwilio.

Rhaid sicrhau caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw i gyhoeddi gwybodaeth ar ffurf brintiedig neu amlgyfrwng neu i lunio adnoddau at ddefnydd masnachol.

Bydd disgwyl i ddefnyddwyr Archwilio ufuddhau i’r holl gyfyngiadau hawlfraint a chyfyngiadau cyfreithiol eraill a allai fod yn berthnasol i wybodaeth a ddelir yn y cofnod.

Mae gofyn i ddefnyddwyr gydnabod eu bod wedi defnyddio Archwilio mewn unrhyw ddogfen neu adroddiad cyhoeddedig.

*Caiff y wybodaeth a gesglir o Archwilio gan y defnyddiwr ei diogelu gan gyfraith hawlfraint ac ni ddylid atgynhyrchu, copïo, cyhoeddi, arddangos, rhoi benthyg, na throsglwyddo gwybodaeth o’r fath ar ffurf data nac yn ysgrifenedig gan y defnyddiwr i drydydd parti heb gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Heneb.

Cyfeiriwch at Bolisi Mynediad ac Adennill Costau Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Heneb, sydd ar gael yma am wybodaeth bellach ar amodau ar gyfer mynediad a chostau.

Mynediad a Difrod i Safleoedd Archaeolegol

Nid yw’r ffaith bod nodwedd neu adeilad archaeolegol yn cael ei gynnwys ar wefan Archwilio yn awgrymu bod unrhyw hawl mynediad cyhoeddus i’r safle hwnnw neu’r heneb honno. Mae’r mwyafrif ar dir preifat, a rhaid cael caniatâd gan y perchennog bob amser cyn y gellir ymweld ag unrhyw rai. Nid yw Gweinidogion Cymru a Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yn derbyn (cyn belled ag y mae’r gyfraith yn caniatáu) unrhyw atebolrwydd o gwbl am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi yn sgil defnyddio’r wybodaeth sy’n cael ei chynnwys yn Archwilio, ac ni dderbynnir unrhyw hawliadau am iawndal nac esgeulustod. Am ragor o wybodaeth am y pwnc hwn, ewch i’r dudalen Ymwadiad.

Rhaid peidio â defnyddio’r wybodaeth a gynhwysir yn Archwilio at ddibenion sy’n difrodi, neu a allai arwain at ddifrodi, safleoedd archaeolegol, adeiladau a thirweddau hanesyddol. Yn anad dim, mae’r gyfraith yn gwarchod Henebion Cofrestredig ac Adeiladau Rhestredig, ac mae eu difrodi’n anghyfreithlon: hefyd, ni ddylid dechrau gwaith sy’n effeithio arnyn nhw heb y caniatâd perthnasol.

Cysylltwch â Cadw’n uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth am Henebion Cofrestredig ac Adeiladau Rhestredig.