Help ArchwilioSut i ddefnyddio Archwilio

Dylai defnyddwyr masnachol y CAH gysylltu â thîm CAH Heneb am gyngor ar ba wybodaeth bellach sy’n debygol o fod ar gael y tu hwnt i’r hyn a welir yn Archwilio. Anfonwch e-bost i her@heneb.org.uk

Mae Help Archwilio wedi’i rannu’n nifer o adrannau. Dewiswch bwnc o’r ddewislen isod. Mae help cyflym ar gael drwy glicio ar yr eiconau help yn y brif ardal chwilio.

I ddefnyddio’r map:

Gallwch nesáu a phellhau drwy:

  • ddefnyddio’r eiconau – a + yn y gornel dde uchaf
  • defnyddio rholiwr eich llygoden
  • pinsio ar eich pad cyffwrdd neu’ch sgrîn gyffwrdd

Symudwch y map drwy:

  • glicio a llusgo gyda botwm chwith y llygoden
  • tapio a llusgo ar bad cyffwrdd
  • symud yr ardal ddiddordeb goch yn y map sydd wedi’i fewnosod yn y gornel dde uchaf

Gallwch ychwanegu unrhyw un o haenau’r map drwy dicio ar y blwch nesaf at ei henw. Cliciwch ar yr enw i gael gwybod mwy am yr haen honno.

Newidiwch balet lliw yr haenau i ystod sy’n fwy addas i ddefnyddwyr â nam ar y golwg drwy dicio’r blwch

Chwiliwch y map yn ôl cod post, cyfeirnod grid cenedlaethol neu Ranbarth CAH Heneb gan ddefnyddio’r chwyddwydr ar waelod yr arysgrif

I Chwilio’r map

Mae modd chwilio yn Archwilio ar sail testun, map neu gyfuniad o’r ddau.

  1. chwyddwch yr ardal sydd o ddiddordeb
  2. ticiwch “Chwilio’r map yn unig”
  3. cliciwch ar Chwilio
  4. i glirio’r termau chwilio a dechrau chwilio o’r newydd, cliciwch eto ar ‘chwilio’

Bydd rhestr o’r canlyniadau i’w gweld nawr yn y bar ochr ac ar y map

I weld cofnod ar y map:

  1. cliciwch ar eicon Canlyniad chwiliad HER
  2. dewiswch y cofnod o’r naidlen
  3. bydd y cofnod yn agor mewn tab newydd
  4. sgroliwch i lawr i gael adroddiadau ar ffurf pdf a ffotograffau (os oes rhai ar gael)

I weld cofnod o’r rhestr

  1. cliciwch ar y cofnod yn y rhestr yn y bar ochr
  2. bydd y cofnod yn agor nesaf at y map a bydd y map yn ailganoli ar y cofnod
  3. sgroliwch i lawr i gael gweld yr holl destun
  4. Defnyddiwch y saeth fach i’r dde o’r cofnod i’w gau

I chwilio gan ddefnyddio Ardal, Cymuned neu Gyfnod

  1. Dewiswch y term priodol o’r gwymplen berthnasol
  2. Cliciwch ar Chwilio
  3. Mae modd defnyddio’r termau hyn mewn unrhyw gyfuniad e.e.
    Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
    Bethseda
    Oes Efydd
    ac wedi’u cyfuno ag allweddeiriau

I chwilio’r gronfa ddata gan ddefnyddio allweddair, cod post neu gyfeirnod:

  1. Rhowch allweddair, PRN (Cyfeirnod sylfaenol) neu God Post (neu ran o god post) yn y blwch Term chwiliad
  2. Cliciwch ar chwilio
  3. Cliriwch y term chwilio drwy ddewis “Unrhyw” o’r gwymplen
  4. nid yw chwiliadau yn gwahaniaethu

Mireinio Termau Chwilio

I chwilio am union derm, defnyddiwch ddyfynodau:

bydd dinas dinlle yn dychwelyd pob cofnod sy’n cynnwys dinas a dinlle
ond
bydd “dinas dinlle” yn dychwelyd cofnodion sy’n cynnwys yr union ymadrodd hwnnw yn unig

Enghreifftiau o Dermau Chwilio Allweddeiriau:

Chwiliad â therm amwys:
bydd caer
yn cyfateb i caer neu caerau neu unrhyw air sy’n cynnwys caer

bydd caer castell dinas
yn cyfateb i gofnodion sy’n cynnwys caer neu castell neu dinas

Chwiliad â therm benodol:
bydd “dinas dinlle”
yn cyfateb i’r ymadrodd “dinas dinlle”

Defnyddiwch + i orfodi allweddair i gael ei gynnwys:
e.e. bydd caer castell +canoloesol
yn cyfateb i gofnodion allai gynnwys caer neu castell, ond rhaid iddynt gynnwys canoloesol

Defnyddiwch – i orfodi allweddair i gael ei hepgor:
bydd caer castell -canoloesol
yn cyfateb i gofnodion gyda caer neu castell ond heb canoloesol

Cadw eich chwiliad

  1. Cliciwch ar yr eicon seren i gael gweld yr URL unigryw ar gyfer eich chwiliad
  2. Agorwch hwn mewn tab porwr newydd neu copïwch a gludwch mewn ffeil ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
  3. mae agor URL canlyniadau’r chwiliad mewn tab newydd yn caniatáu i chi newid iaith heb ailosod y map.

Newid Iaith

Defnyddiwch y tab ar frig y bar ochr i newid iaith. Os byddwch chi wedi cynnal chwiliad eisoes:

  1. defnyddiwch yr eicon seren i gael gweld URL canlyniad y chwiliad
  2. agorwch yr URL hwn mewn tab newydd
  3. newidiwch iaith ac arhoswch i’r chwiliad adnewyddu’n awtomatig

Deall Termau Archaeolegol

Mae rhai o’r geiriau rydym yn eu defnyddio yng nghofnodion HER yn dod o thesawrysau safonol. Mae disgrifiad a chyfieithiad Cymraeg ar gyfer bob term.

Amodau Defnyddio

Hawlfraint
Defnydd o wybodaeth
Safleoedd Archaeolegol

Hygyrchedd

Mae manylion hygyrchedd gwefan Archwilio i’w gweld ar ein tudalen Hygyrchedd.

Gadael Adborth / Adrodd am Broblemau

Oeddech chi’n gwybod?

Y gallwch chi gadw URL unigryw eich chwiliad i’w ddefnyddio eto drwy ddefnyddio’r eicon seren ar frig y bar ochr?

Oeddech chi’n gwybod?

Y gallwch chi ganfod cymorth drwy glicio ar yr eicon gwybodaeth ar frig y bar ochr?

Oeddech chi’n gwybod?

Y gallwch chi ddefnyddio’r botwm lleoli yn y gornel dde uchaf i nesáu at eich lleoliad presennol?