Ynglŷn â’r wefan hon
Mae Archwilio yn wefan sy’n darparu mynediad cyhoeddus i’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan
Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- Chwyddo’r dudalen hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenwr sgrin.
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Mae hon yn wefan allanol a bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch
- Efallai na fydd cynnwys ac ymarferoldeb a ddarperir gan gyflenwyr trydydd parti yn hollol gwbl hygyrch
- Nid yw rhai dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch
- Mae rhai o’n ffurflenni yn anodd i’w llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- Mae yna gyfyngiadau i faint mae modd chwyddo mapiau
Adborth a Gwybodaeth Gyswllt
Os hoffech y wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, neu hawdd ei ddeall, cysylltwch â thîm CAH Heneb her@heneb.org.uk:
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 15 diwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan
Rydym wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu bod gennych awgrymiadau ar sut y gallwn wella’r hygyrchedd ar y wefan hon, cysylltwch â thîm CAH Heneb her@heneb.org.uk.
Os nad ydych yn fodlon gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) (https://www.equalityadvisoryservice.com)
Statws Cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffygion cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod:
Cynnwys anhygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol:
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Efallai na fydd rhannau o’r mapiau a rhyngwyneb y mapio yn hygyrch. (Gweler baich anghymesur.)
Baich anghymesur:
- Nid yw rhai o’n dogfennau PDF a Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd. Wrth ystyried a oes modd inni ddarparu gwybodaeth mewn fformat hygyrch, byddwn yn asesu:
- beth fyddai cost y gwaith ac effaith gwneud y gwaith arnom
- faint fyddai defnyddwyr ag anabledd yn elwa o gynnal y gwaith
- Nid yw meddalwedd trydydd parti yn bodloni safonau hygyrchedd. Rydym yn bwriadu gweithredu diweddariadau hygyrchedd cyn gynted ag y byddant ar gael gan y datblygwr.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Bydd y wefan yn cael ei hasesu ar gyfer hygyrchedd o bryd i’w gilydd a bydd gwelliannau yn cael eu gwneud lle fo’n bosib pan fydd y wefan yn cael ei chynnal a’i chadw.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 18 Gorffennaf 2022. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 18 Gorffennaf 2022.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 18 Gorffennaf 2022. Cynhaliwyd y prawf gan Artychoke.
Defnyddiwyd y dull hwn i benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi: Trawstoriad o wahanol fathau o dudalennau, gyda lefel uchel o ddefnyddwyr ar y wefan.