Ymwadiad

Manwl gywirdeb a’r defnydd o ddata

Er bod Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru’n gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod data Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) a ddarperir trwy Archwilio yn fanwl gywir, nid yw’n rhoi unrhyw warantau i ddefnyddwyr ynglyn ag unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddo. Llunnir y data ar y wefan yn barhaus o adnoddau amrywiol. Nid yw’r wybodaeth a ddarperir trwy Archwilio felly’n ffynhonnell ddiffiniol ond yn hytrach mae’n adlewyrchu cofnodion Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru ar y dyddiad y’u diweddarwyd ddiwethaf. Yn anad dim, mae yna lawer o safleoedd wedi’u cofnodi yn y gronfa ddata na fu unrhyw un yn ymweld â nhw yn y maes neu’n defnyddio unrhyw fodd arall i’w dilysu fel cofnodion gwir a manwl gywir. O’r herwydd, nid yw’r wybodaeth ar y wefan hon yn addas i’w defnyddio yn y broses gynllunio, nac wrth gynhyrchu cytundebau ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol neu gynlluniau rheoli tir eraill. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, cysylltwch â staff CAH Heneb yn uniongyrchol. Felly bydd angen yn aml galw ar wasanaethau archaeolegydd profiadol i fwrw amcan o arwyddocâd llawn safleoedd penodol sydd wedi’u rhestru yn y cofnodion.

Cofiwch nad yw’r wybodaeth am safleoedd sydd dan warchodaeth gyfreithiol ar y wefan hon yn ddiffiniol. Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch â Cadw i gael gwybodaeth ac arweiniad diffiniol.

Y Gymraeg

Yn achos cofnodion a grëwyd cyn Ebrill 2016, dim ond yn y Saesneg y mae gwybodaeth destunol lawn y cofnodion ar hyn o bryd. Mae cofnodion sydd wedi’u creu ar ôl mis Ebrill 2016 bydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n bosibl defnyddio’r wefan, gan gynnwys y rhyngwyneb chwilio, yn y ddwy iaith a gellir edrych ar wybodaeth cofnodion sydd â labeli, teitlau a data (wedi’u creu o 1af Ebrill 2016 ymlaen) yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Data

Mae hawlfraint a hawliau cronfa ddata strwythur Archwilio a’r holl gynnwys cyn 8 Mai 2017 yn perthyn i Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru oni nodir yn wahanol. Mae cofnodion newydd a grëwyd ar ôl Mai 8 2017 yn gymysgedd o Hawlfraint y Goron (yn amodol ar Drwydded Llywodraeth Agored anfasnachol) a hawlfraint Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru. Cysylltwch â Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru am ragor o wybodaeth.

Gwefan Archwilio

Datblygwyd gwefan Archwilio yn wreiddiol yn 2009-10 gan y cyn Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru er mwyn galluogi’r cyhoedd i weld y wybodaeth a gedwir o fewn y Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol. Cafodd y safle ei wella eto yn 2017, pan gafodd y gofyniad statudol i Weinidogion Cymru gynnal a darparu Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol ei gyflawni gan y cyn Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru drwy Archwilio. Yn 2022, penderfynodd y cyn Ymddiriedolaethau ddiweddaru’r safle, gyda chymorth grant ariannol gan Cadw. Mae gwedd y safle wedi’i adnewyddu, ac mae’r swyddogaethau chwilio wedi’u gwella, gyda ffocws ar ddiogelwch, hygyrchedd a phrofiad y defnyddiwr. Mae Hawliau Eiddo Deallusol brand Archwilio yn parhau gyda Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru.

Dolenni i wefannau allanol

Nid yw Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yn cymeradwyo cynnwys unrhyw wefan sy’n gysylltiedig â Gwefan Archwilio ac nid ydynt yn gyfrifol am gynnwys na gweithredoedd y gwefannau hynny.