Cysylltwch â Heneb:Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru

Elusen addysgol a chwmni cyfyngedig yw Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru a ffurfiwyd ym mis Ebrill 2024 ar ôl i’r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru uno. Roedd y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru yn elusennau addysgol a chwmnïau cyfyngedig a sefydlwyd yng nghanol y 1970au gyda’r nod pennaf o ddatblygu addysg archaeolegol y cyhoedd. Heneb sy’n cynnal y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) ar gyfer pob ardal awdurdod lleol (a gynhaliwyd yn flaenorol gan y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru). Mae’r CAH yn darparu gwybodaeth i amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion, yn cynnwys llywodraeth leol a chenedlaethol.

Ein cefndir

Rydym yn cynnal y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) ar gyfer pob ardal awdurdod lleol. Mae’r wybodaeth greiddiol sydd ar gael drwy Archwilio yn cael ei chefnogi gan niferoedd sylweddol o wybodaeth ychwanegol a gedwir gan bob un o’r swyddfeydd rhanbarthol. Yn ogystal â chael ei defnyddio gan ymchwilwyr preifat ac academaidd, mae’r wybodaeth yn hanfodol i awdurdodau lleol a sefydliadau eraill sy’n ei defnyddio i ddarparu cyngor strategol, a hefyd i ddarparu cymorth rheoli achos lle mae cynigion datblygu a chynlluniau amaeth-amgylcheddol, coedwigaeth a choetiroedd yn effeithio ar yr amgylchedd hanesyddol. Mae Heneb hefyd yn cynnal amrywiaeth eang o brosiectau archaeolegol ar gyfer cyrff sector cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys asesiadau o effaith amgylcheddol, arolygon maes, gwaith cloddio a dehongliad treftadaeth.

Heneb: Archaeoleg Clwyd-Powys

Heneb: Archaeoleg Dyfed

Heneb: Archaeoleg Morgannwg-Gwent

Heneb: Archaeoleg Gwynedd

Oeddech chi’n gwybod?

Y gallwch chi newid y map sylfaenol i arolwg ordnans cyfoes (1:25,000), ffotograffau o’r awyr neu fap hanesyddol?

Heneb: Archaeoleg Clwyd-Powys

Cyfeiriad post:
Y Swyddfeydd, Coed y Ddinas, Y Trallwng, SY21 8RP.
Rhif ffôn: 01938 553670
Cyfeiriad e-bost: her@heneb.org.uk
Gwefan:

Heneb: Archaeoleg Dyfed

Cyfeiriad post:
Tŷ Cornel, 6 Stryd Caerfyrddin, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6AE
Rhif ffôn: 01558 823121
Cyfeiriad e-bost: her@heneb.org.uk
Gwefan:

Heneb: Archaeoleg Morgannwg-Gwent

Cyfeiriad post:
Canolfan Fusnes SA12, Stad Ddiwydiannol Seaway Parade, Baglan, Port Talbot, SA12 7BR.
Cyfeiriad e-bost: her@heneb.org.uk
Gwefan:

Heneb: Archaeoleg Gwynedd

Cyfeiriad post:
Craig Beuno, Ffordd y Garth, Bangor, Gwynedd. LL57 2RT.
Rhif ffôn: 01248 352535
Cyfeiriad e-bost: her@heneb.org.uk
Gwefan:

Oeddech chi’n gwybod?

Y gallwch chi weld adroddiad CADW ar gyfer unrhyw heneb gofrestredig drwy glicio ar bolygon yr heneb yn ffenestr y map?