Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023
Bu i Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 gyflwyno cyfrifoldeb ar Weinidogion Cymru i gasglu a diweddaru cofnod amgylchedd hanesyddol (CAH) ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. O 2023 ymlaen, cyfunwyd deddf 2016 â deddfau amgylchedd hanesyddol Cymru perthnasol dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023. Mae Archwilio yn darparu mynediad ar-lein i’r wybodaeth greiddiol hon ynghylch amgylchedd hanesyddol Cymru, a chaiff hyn ei gefnogi gan ragor o ddeunyddiau a gedwir gan CAH Heneb.
Cafodd y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol eu casglu a’u cynnal gan y pedair cyn Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru ers y 1970au. Ar 1 Ebrill 2024, unodd y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru i greu Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru, a CAH Heneb sydd bellach yn ymgymryd â’r gwaith hwn ar ran Gweinidogion Cymru. Mae’r cofnodion yn cynnig mynegai cynhwysfawr i safleoedd, canfyddiadau ac ymchwiliadau archaeolegol a hanesyddol o bob cyfnod drwy Gymru gyfan. Ar hyn o bryd, mae CAH Heneb yn cynnwys cofnodion sy’n gysylltiedig â thros 300,000 o asedau unigol a bron i 100,000 o ymchwiliadau, mewn cronfeydd data a gaiff eu diweddaru a’u hehangu’n barhaus wrth i wybodaeth newydd ddod i’r wyneb. Mae’r CAH yn defnyddio gwybodaeth i gyflawni amrywiaeth eang o swyddogaethau, gan gynnwys helpu gyda rheoli a chyflwyno’r dirwedd hanesyddol mewn modd cadarnhaol, rheoli datblygu, ac fel ffynhonnell ar gyfer mewnbwn i brosiectau hanes, cadwraeth a thwristiaeth lleol.
Mae CAH Heneb yn ymdrin â phob agwedd ar weithgarwch dynol yn y dirwedd, o’r cyfnod cynhanesyddol cynnar i’r cyfnodau diweddar. Gellir dod o hyd i fanylion am safleoedd adnabyddus a llai adnabyddus, yn ogystal â chofnodion a gynhyrchwyd gan brosiectau archaeolegol a gynhaliwyd yn yr ardal. Os yw ymchwilio i’ch ardal leol neu ddysgu rhagor am gyfnod hanesyddol penodol o ddiddordeb i chi, dyma fan cychwyn da.
Dylai defnyddwyr masnachol y CAH gysylltu â thîm CAH Heneb am gyngor ar ba wybodaeth bellach sy’n debygol o fod ar gael y tu hwnt i’r hyn a welir yn Archwilio. Cysylltwch â’r tîm drwy’r ffurflen ymholi hon.
Sut allwch chi gyfrannu
Byddem yn falch o glywed am unrhyw wybodaeth newydd nad yw yn ein meddiant ar hyn o bryd, neu unrhyw ddiweddariadau i gofnodion presennol. Yn ogystal, os ydych yn gallu cyflwyno gwybodaeth a chithau wedi bod yn ymchwilio i faes neu thema penodol, byddwch cystal â chyfeirio at Gyfarwyddiadau ar gyfer Cyflwyno Data i Gofnod Amgylchedd Hanesyddol Heneb (CAH) er mwyn helpu i’n darparu â’r wybodaeth briodol.
Cymorth
Sut i gyrchu cronfa ddata Archwilio.
Cysylltwch â Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
A wyddoch chi?
Bod modd i chi weld ffynhonnell a thelerau trwyddedu unrhyw haen ar y map drwy glicio ar ei henw yn yr arysgrif?
Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru
Elusennau addysgiadol a chwmnïau cyfyngedig wedi eu sefydlu yng nghanol y 1970au oedd cyn Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, a’u prif nod oedd hybu addysgu’r cyhoedd mewn archaeoleg. Roedd yr ymddiriedolaethau yn cynnal Cofnodion yr Amgylchedd Hanesyddol (CAH) ar ran pob ardal awdurdod lleol. Ar 1af o Ebrill 2024, cyfunwyd y bedair ymddiriedolaeth fel Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru. Mae Heneb yn parhau i gynnig gwybodaeth i nifer o gyfungyrff ac unigolion gan gynnwys llywodraeth leol a chenedlaethol.
Rhagor o wybodaeth
Mae rhai o’r geiriau rydym yn eu defnyddio yng nghofnodion HER yn dod o thesawrysau safonol. Mae disgrifiad a chyfieithiad Cymraeg ar gyfer bob term.